Ymchwil I Gymru
Helpwch i lunio dyfodol iechyd ac ymchwil yng Nghymru
Ymunwch â’n rhwydwaith ymchwil yma!

Mae Ymchwil y Ddraig yn fenter sy’n cefnogi ymchwil seicolegol ac iechyd yng Nghymru.
I ddysgu mwy, gallwch ddarllen crynodebau byr o’r ymchwil sy’n mynd rhagddi isod. Gallwch ddewis cymryd rhan mewn astudiaethau unigol neu ymuno â Phartneriaeth Ymchwil y Ddraig i gael eich gwahodd i gyfleoedd yn y dyfodol a derbyn diweddariadau am ymchwil barhaus.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir gennych ei thrin yn gwbl gyfrinachol, ac rydych yn rhydd i wrthod cymryd rhan neu dynnu’n ôl ar unrhyw adeg heb roi rheswm. Mae pob astudiaeth ymchwil a restrir ar y wefan hon yn cael ei hadolygu a’i chymeradwyo gan bwyllgor moeseg ymchwil prifysgol. Eich diogelwch, eich preifatrwydd a’ch lles yw ein blaenoriaeth uchaf.
Ymchwil bresennol
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n siarad Cymraeg yn bennaf ac sydd wedi derbyn ymyriadau CAMHS unrhyw le yng Nghymru. Rhaid i unigolion fod dros 18 oed. Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben y tu allan i nodau’r ymchwil a nodir. Gallwch ddysgu mwy drwy ddarllen y daflen wybodaeth ar ddechrau’r arolwg.
Mae’r ymchwil hwn yn gydweithrediad rhwng GIG Cymru a Phrifysgol Abertawe. Caiff y data ar gyfer yr ymchwil hwn ei gasglu gan Gwenno Acciaioli, Seicolegydd Cynorthwyol yn y GIG, ochr yn ochr â Dr Samuel Kyle Jones a Dr Rhian Lewis, ymchwilwyr o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
Os hoffech gefnogi darpariaeth gofal iechyd meddwl dwyieithog, cwblhewch ein harolwg drwy glicio ar y botwm neu sganio’r cod QR, a chynnwys eich cyfeiriad e-bost ar gyfer cyfweliad dilynol.

Ydych chi’n siarad Cymraeg ac yn gallu dod i Brifysgol Abertawe? Oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn astudiaeth ar brosesu iaith gan ddefnyddio technoleg olrhain llygaid uwch?
Mae’r astudiaeth hon, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnwys cwblhau dau dasg (cyfanswm o 60 munud):
Tasg 1: Tasg olrhain llygaid ar Gampws Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP.
Tasg 2: Tasg gyfrifiadurol ar-lein y gallwch ei chwblhau ar y campws neu ar eich dyfais eich hun gartref (o fewn wythnos i Dasg 1).
Fel diolch am gymryd rhan, bydd cyfranogwyr yn derbyn taleb rhodd Amazon gwerth £20.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dan Strogen yma: 973256@swansea.ac.uk
Yn dod yn fuan!
Yn ein hymchwil dysgu peirianyddol ddiweddar, a archwiliodd pa ffactorau ffordd o fyw sy’n gysylltiedig â gwell iechyd gwybyddol yn ddiweddarach mewn bywyd, roedd un canfyddiad yn sefyll allan yn gyson: roedd oedolion hŷn sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn rheolaidd yn tueddu i ddangos mwy o wydnwch yn erbyn dirywiad gwybyddol.
Fodd bynnag, mae ymchwil flaenorol wedi nodi canlyniadau cymysg. Mae hyn yn awgrymu y gallai rhai mathau o ddefnydd o’r rhyngrwyd fod yn fuddiol, tra gall eraill, megis defnydd gormodol neu oddefol, gael effeithiau negyddol.
Bydd ein hastudiaeth nesaf yn ymchwilio i hyn yn fanylach. Ein nod yw deall a yw gwahanol fathau o weithgareddau ar-lein, megis cyfathrebu, dysgu, neu adloniant, yn amrywio yn eu perthynas ag iechyd gwybyddol.
Mae’r astudiaeth hon wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os hoffech gael eich hysbysu pan fydd yn agor, ymunwch â Phartneriaeth Ymchwil y Ddraig.
Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau gan y cyhoedd. Os ydych yn 70 oed neu’n hŷn ac yn fodlon rhannu sut rydych yn defnyddio’r rhyngrwyd yn eich bywyd bob dydd, gall eich mewnbwn helpu i lywio cynllun y gwaith ymchwil hwn.
E-bost: s.k.jones@Swansea.ac.uk
Mae Dr Kyle Jones yn Ddarlithydd ac yn Bennaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar heneiddio gwybyddol, dwyieithrwydd, a dulliau sy’n cael eu gyrru gan ddata i ddeall risg dementia, diagnosis cynnar, ac atal neu ohirio dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig ag oedran. Mae’n defnyddio modelu ystadegol uwch a dulliau dysgu peirianyddol dehongladwy ar setiau data hydredol rhyngwladol mawr, gan gynnwys yr Health and Retirement Study (HRS), yr English Longitudinal Study of Ageing (ELSA), yr China Health and Retirement Longitudinal Study (CHARLS), a UK Biobank.
Mae ei waith wedi’i seilio ar ddamcaniaeth y gronfa wybyddol, ac mae’n ceisio deall pam mae unigolion yn amrywio yn eu gwydnwch i ddirywiad gwybyddol. Drwy nodi ffactorau ffordd o fyw, iechyd a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â heneiddio iachach yr ymennydd, mae ei ymchwil yn cyfrannu at wella dulliau canfod cynnar ac yn llywio strategaethau atal yn y dyfodol.
Dr Jones yw sylfaenydd ac arweinydd ymchwil Partneriaeth Ymchwil y Ddraig, sef rhwydwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar Gymru ac sy’n cefnogi cyfranogiad cynhwysol mewn ymchwil seicolegol ac iechyd, ac yn hyrwyddo lledaenu canfyddiadau gwyddonol cyfoes. Mae ei waith wedi’i gydnabod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae wedi cyflwyno ei ymchwil mewn cynadleddau gwyddonol cenedlaethol a rhyngwladol.
Ochr yn ochr â’i ymchwil academaidd, mae Dr Jones yn ymrwymedig i gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae’n arwain y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Seicoleg, yn goruchwylio tîm o fyfyrwyr PhD a ymchwilwyr gyrfa gynnar a ariennir, ac yn hyrwyddo dealltwriaeth gyhoeddus o ddementia ac iechyd yr ymennydd drwy addysgu, ymgysylltu cyhoeddus, a chydweithio ymchwil.
E-bost: s.k.jones@swansea.ac.uk
Dwyieithrwydd a Dementia
Hoffem ddiolch i’r 228 o bobl a gymerodd ran yn ein hastudiaeth yn ymchwilio i weld a all dwyieithrwydd leihau dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig â heneiddio. Diolch i’ch cyfranogiad mewn dros ddwy awr o brofion gwybyddol, llwyddwyd i gasglu cryn dipyn o wybodaeth werthfawr iawn. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein canfyddiadau, y gallwch eu darllen yma:
Wang, Y., Wang, X., Zhao, L., & Jones, K. (2025). A case for the use of deep learning algorithms for individual and population level assessments of mental health disorders: Predicting depression among China's elderly. Journal of Affective Disorders, 369, 329–337.